Rhif y ddeiseb: P-06-1303

Teitl y ddeiseb: Creu, ariannu a chynnal digon o leoedd meithrin a gofal plant fforddiadwy i bob rhiant sy’n gweithio

Geiriad y ddeiseb:  Mae gormod o rieni â theuluoedd ifanc yn cael eu hatal rhag manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth, addysg a hyfforddiant yn sgil diffyg darpariaeth gofal plant lleol fforddiadwy. Mae’r sefyllfa hon yn cadw plant a theuluoedd mewn tlodi, yn lleihau dewis i gyflogwyr, ac yn cael effaith negyddol ar les teuluoedd ac economi Cymru. Mae angen ymyrraeth ar lefel wleidyddol i sicrhau bod y sefyllfa hon yn cael sylw.

Fel cyn swyddog datblygu ym maes gofal plant, gallaf gadarnhau bod y sefyllfa’n waeth nawr nag yr oedd 10-15 mlynedd yn ôl, gyda gostyngiad enfawr mewn lleoedd gofal plant i fabanod a phlant hŷn. Fel rhan o’i hymrwymiad i blant a theuluoedd yng Nghymru, mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried ar fyrder opsiynau ar gyfer sicrhau bod gofal plant fforddiadwy yn hawl i bob teulu, yn yr un modd ag y mae addysg. Dylai’r Llywodraeth hyd yn oed ystyried lleoli meithrinfeydd a lleoliadau gofal plant ar dir ysgolion, yn enwedig mewn adeiladau newydd neu safleoedd ysgol presennol lle mae digon o le i wneud hynny. Ni all y rhieni yr wyf yn eu hadnabod fanteisio ar gyfleoedd a fyddai o fudd i'w teuluoedd. Naill ai mae’r gofal plant yn anfforddiadwy, neu'n amlach na pheidio, nid oes gofal plant ar gael iddynt. Mae angen buddsoddiadau parhaus ar lefel Llywodraeth Cymru o ran darparu lleoedd gofal plant a darparu cymorthdaliadau ar eu cyfer. Gadewch i ni arwain y ffordd i weddill y DU!


1.        Y cefndir

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu sawl math o ddarpariaeth gofal plant ar gyfer gwahanol grwpiau oedran, mewn gwahanol ardaloedd daearyddol:

·      Mae gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i o leiaf 10 awr yr wythnos o ofal meithrin Cyfnod Sylfaen  o'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed nes iddynt ddechrau yn yr ysgol yn llawn amser. Yn ymarferol mae llawer o awdurdodau lleol yn cynnig rhagor.

·      O dan ‘Gynnig Gofal Plant’ Llywodraeth Cymru mae llawer o rieni sy’n gweithio, a rhai rhieni mewn sydd mewn addysg neu hyfforddiant, yn gymwys i gael 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim ar gyfer plant 3 a 4 oed, a hynny am 48 wythnos y flwyddyn. Mae'r 30 awr yn cynnwys o leiaf 10 awr yr wythnos o addysg gynnar ac uchafswm o 20 awr yr wythnos o ofal plant.

·      Mae’r rhaglen Dechrau'n Deg  yn darparu gofal plant am ddim i rieni plant 2 a 3 oed sy’n byw yn yr ardaloedd a gaiff eu diffinio fel yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru am 2.5 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos. Mae’r ddarpariaeth hon ar gael am 39 wythnos y flwyddyn, gydag o leiaf 15 o sesiynau yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae cynlluniau i ehangu hyn wedi'u nodi isod.

 

Rhoddodd Deddf Cyllido Gofal Plant (Cymru) 2019 ‘y pŵer i Weinidogion Cymru ddarparu cyllid ar gyfer gofal plant i blant rhieni cymwys sy'n gweithio ac i wneud rheoliadau ar y trefniadau ar gyfer gweinyddu a gweithredu cyllid o'r fath.’

 

Yn ei Rhaglen Lywodraethu, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ariannu gofal plant ar gyfer rhagor o deuluoedd ‘lle mae rhieni mewn addysg a hyfforddiant neu ar gyrion gwaith.’  Ymhellach i hynny, fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio, bydd darpariaeth gofal plant a ariennir yn cael ei hymestyn i bob plentyn dwy flwydd oed. Ar 15 Mawrth, nododd Llywodraeth Cymru fanylion cam cyntaf yr ehangu hwn. Mewn datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar y 27 Medi 2022, dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, fod y cam cyntaf bellach yn cael ei gyflawni. Aeth ymlaen i ddweud y bydd y gwaith o gyflwyno'r ail gam yn dechrau ym mis Ebrill 2023, gan ddechrau gyda rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig. Dywedwyd hefyd y byddai Llywodraeth Cymru'n buddsoddi £26 miliwn mewn ehangu gofal plant Dechrau'n Deg dros y ddwy flynedd ganlynol.

 

Dywedodd datganiad diweddaraf y Dirprwy Weinidog hefyd y bydd y llywodraeth yn ceisio cynyddu'n sylweddol argaeledd y ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg dros y cyfnod hwn. Dywedodd Julie Morgan hefyd bod 'cyllid ychwanegol gwerth hyd at £3.787 miliwn yn cael ei ddarparu i Cwlwm yn ystod y tair blynedd ariannol nesaf i gefnogi amrywiaeth o fesurau, gan gynnwys hyfforddiant Cymraeg ychwanegol a phwrpasol, cefnogaeth bwrpasol i leoliadau cyfrwng Cymraeg...'.

 

Cyhoeddodd y Llywodraeth hefyd raglen waith cyfalaf newydd tair blynedd o £70 miliwn y bydd lleoliadau gofal plant cofrestredig yn cael cyfle i wneud cais amdanynt.  

 

2.     Bylchau yn y dddarpariaeth gofal plant bresennol, a beirniadaeth ohoni

Mae dau fath o fylchau allweddol yn y ddarpariaeth gofal plant, ac mae'r cyntaf yn ymwneud â diffyg lle mewn darpariaeth gofal plant. Mae'r ail yn ymwneud â meini prawf cymhwysedd yn seiliedig ar oedran, lleoliad, ac incwm rhieni. 

2.1.          Bylchau mewn darpariaeth leol

Roedd Arolwg Gofal Plant 2022 a gynhaliwyd gan Yr Ymddiriedolaeth Teuluoedd a Gofal Plant yn dangos bod digonolrwydd gofal plant wedi gostwng ers 2021 ar gyfer yr holl gategorïau yng Nghymru, ac eithrio gofal ar ôl ysgol i blant 12-14 oed. 

Mae gofyniad cyfreithiol  ar awdurdodau lleol yng Nghymru i baratoi a chyhoeddi asesiadau o ddigonolrwydd y ddarpariaeth gofal plant yn eu hardal.

Pan ysgrifenwyd y ddogfen hon cofnodwyd y nifer uchaf o lofnodwyr i'r ddeiseb, o bell ffordd, yng Ngheredigion, sydd yn ôl ei Asesiad o ddigonolrwydd gofal plant wedi canfod nad oedd digon o lefydd Gofal Plant ar gael i ateb galw rhieni. Yn yr awdurdod, cofnododd bod 375 o lefydd gofal plant wedi’u colli ar draws pob math o ofal plant rhwng 2017 a 2022. Mae'r asesiad yn nodi cofrestru darparwyr, recriwtio, a diffyg hyfforddiant, fel rhai o'r rhesymau dros y diffyg.

Mae adroddiad Yr Ymddiriedolaeth Teulu a Gofal Plant  yn nodi bod prinder arwyddocaol mewn gofal plant i blant anabl, ac i blant rhieni sy'n gweithio oriau annodweddiadol, gyda dim awdurdodau lleol yng Nghymru'n dweud bod gofal plant 'ym mhob ardal' ar gyfer y categorïau hyn. Noda’r adroddiad hefyd bod digonolrwydd i deuluoedd mewn ardaloedd gwledig yn wael.

Mae Arolwg Gofal Plant 2022 Yr Ymddiriedolaeth Teulu a Gofal Plant yn nodi: rhwng Cymru, yr Alban a Lloegr, Cymru oedd â'r cynnydd uchaf yng nghost gofal plant rhwng 2021 a 2022. Fodd bynnag, mae'r costau ar gyfer gofal plant yng Nghymru yn parhau i fod yn is na'r rhai yn Lloegr yn y rhan fwyaf o'r categorïau gofal plant.

2.2.        Nid yw pob plentyn yn gymwys

Fel  y nodir uchod, mae’r Cynnig Gofal Plant yn ychwanegu at yr hawl cyffredinol o 10 awr yr wythnos mewn meithrinfa cyfnod sylfaen, ac yn darparu hyd at gyfanswm o 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant dros 48 wythnos y flwyddyn ar gyfer plant 3 a 4 mlwydd oed rhieni sy’n gweithio. I gymhwyso, rhaid i'r ddau riant (neu un yn achos rhieni sengl) fod yn gweithio, ac ennill (ar gyfartaledd) yr hyn sy'n cyfateb i weithio 16 awr ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw neu fwy. Mae rhai eithriadau i blant rhieni sydd mewn addysg yn ogystal ag i rieni sy'n methu gweithio oherwydd anabledd. I'r rhan fwyaf o blant teuluoedd nad ydynt yn gweithio, nid does dim darpariaeth gofal plant o dan y Cynnig Gofal Plant. 

O dan gynllun Dechrau'n Deg, darperir gofal plant rhan-amser ar gyfer plant 2 i 3 oed mewn lleoliadau penodol. Fel y nodir uchod mae cynlluniau i wneud y ddarpariaeth hon yn un gyffredinol. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae'n gweithredu yn yr 'ardaloedd a ddiffinir fel yr ardaloedd mwyaf difreintiedig' yng Nghymru. Mae yna hefyd elfen fach o ‘allgymorth' fel rhan o'r cynllun, sy'n caniatáu i awdurdodau lleol gyflwyno agweddau ar y rhaglen i blant ar draws yr awdurdod lleol ehangach. I'r rhan fwyaf o blant y tu allan i ardaloedd dynodedig Dechrau'n Deg, nid oes dim darpariaeth ar gyfer plant 2 i 3 oed ar hyn o bryd.

I blant hyd at 2 oed, er bod peth cymorth ar gael i helpu gyda chost gofal plant, fel Gofal plant di-dreth, does dim darpariaeth gofal plant am ddim.

Dywedodd Yr Ymddiriedolaeth Teulu a Gofal Plant  y gall cymhlethdod y system gofal plant yng Nghymru ei gwneud yn anodd i rieni ei deall, a chael gafael ar ofal sydd ar gael. Roedd Jenny Rathbone AS yn ategu hyn, a chaiff ei dyfynnu mewn erthygl Fusnes y Senedd yn dweud, 'Nid yw’r system gyfredol yn ei gwneud hi’n hawdd; mae rhieni'n gorfod ymdopi â system gymhleth er mwyn hawlio cymorth gofal plant, a hynny er mwyn iddynt fod yn barod i fynd yn ôl i’r gwaith.' Nododd y Gwerthusiad o Flwyddyn 4 y Cynnig Gofal Plant y gallai fod angen canolbwyntio o'r newydd ar godi ymwybyddiaeth o'r darpariaethau gofal plant sydd ar gael o dan y Cynnig Gofal Plant.

Mae ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i’r hyn sy’n rhwystro rhieni sy'n gweithio rhag cael gafael ar ofal plant yn nodi bod teuluoedd incwm isel yn arbennig o debygol o fod mewn gwaith annodweddiadol, neu gael contractau dim oriau. Felly, mae'r diffyg gofal plant i rieni sy'n gweithio oriau annodweddiadol yn debygol o gael mwy o effaith ar deuluoedd incwm isel.

Tynnodd yr ymchwiliad sylw hefyd at y bwlch mewn gofal plant rhwng diwedd cyfnod mamolaeth a chymhwysedd ar gyfer y Cynnig Gofal Plant. Mae Arolwg Gofal Plant 2022 yr Ymddiriedolaeth Teulu a Gofal Plant hefyd yn dangos bod gofal plant ar gyfer yr ystod oedran hwn yn ddrytach na’r ystodau oedran hŷn.

O ran craffu ar y Bil Cyllido Gofal Plant ar y pryd, mynegodd y Comisiynydd Plant bryder y gallai 'canlyniad anfwriadol' cyfyngu gofal plant i blant rhieni sy'n gweithio waethygu'r rhaniad rhwng y plant mwyaf breintiedig a difreintiedig. Caiff y pwynt hwn ei adleisio yn Arolwg Gofal Plant 2022 sy'n nodi bod gofal plant yn gallu cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad plentyn.

3.     Effaith gofal plant ar gyflogaeth

Mae Arolwg Gofal Plant 2022 yr Ymddiriedolaeth Teulu a Gofal Plant yn awgrymu bod cynnydd mewn gofal plant yn arwain at ragor o rieni (yn enwedig mamau) yn dychwelyd i'r gwaith. Nodwyd y duedd hon hefyd gan ymchwil academaidd: canfu astudiaeth o rieni incwm isel yn Minnesota, bod ehangu'r rhaglen cymhorthdal gofal plant wedi arwain at gyflogaeth uwch ymhlith rhieni incwm isel â phlant ifanc. Canfu astudiaeth academaidd arall, wrth edrych ar effaith gofal plant â chymhorthdal yn yr Almaen, bod cynnydd mewn gofal â chymhorthdal wedi arwain at gynnydd mewn cyflogaeth.

Mae ymchwil academaidd yn awgrymu y gall gofal plant am ddim, neu gofal plant â chymhorthdal gynyddu cyflogaeth (yn enwedig cyflogaeth mamol), yn y tymor hir a'r tymor byr. Fodd bynnag, mae adolygiad cynhwysfawr o effaith gofal plant â chymhorthdal ar gyflogaeth, o’r farn bod yr effaith yn dibynnu ar gynllun y polisi, cyd-destun y wlad, a nodweddion mamau’r plant cyn oed ysgol.

Mae canfyddiadau Blwyddyn 4 Gwerthuso’r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn nodi bod y Cynnig wedi galluogi llawer o rieni i gynyddu eu henillion, 'yn enwedig y rhai o fewn grwpiau incwm is’. Yn ôl y Gwerthusiad, o'r rhieni a holwyd, dywedodd un o bob deg na fydden nhw mewn gwaith oni bai am y gefnogaeth a roddwyd gan y Cynnig.

Canfu astudiaeth diweddar a oedd yn canolbwyntio ar effaith posibl gofal plant ar gynyddu'r gweithlu yn Lloegr nad oedd darpariaeth ran amser yn cael llawer o effaith ar ffigurau cyflogaeth, ond roedd o’r farn bod darpariaeth lawn amser yn arwain at effaith sylweddol. Mae Asiantaeth Cydraddoldeb Rhywedd Sweden yn  awrgrymu y gwelir yr effaith fwyaf pan fydd cyllid ar gael i famau di-waith.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.